Dewislen
English
Cysylltwch

Andrew Green

Lleoliad

De-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

FfuglenFfeithiol 

Tagiau

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Ganed Andrew Green yn 1952 yn Stamford, Swydd Lincoln ac fe’i fagwyd yn Ne Swydd Efrog. Aeth i Queen Elizabeth Grammar School, Wakefield ac astudiodd y Clasuron yn Gonville & Caius College, Caergrawnt cyn dod i Gymru i hyfforddi fel llyfrgellydd academaidd yn 1973. Gweithiodd yn llyfrgelloedd prifysgolion yn Aberystwyth, Caerdydd, Sheffield ac Abertawe lle gweithiodd fel cyfarwyddwr y llyfrgell a gwasanaethau gwybodaeth. Rhwng 1998 a 2013 bu’n Llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.