Mae Eurig Salisbury yn fardd, yn nofelydd ac yn Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn 2011, cyhoeddodd gyfrol o gerddi i blant, Sgrwtsh!, ac ef oedd Bardd Plant Cymru 2011–13. Bu’n Gymrawd Rhyngwladol gyda Gŵyl y Gelli 2012–13 ac mae wedi teithio’n eang fel bardd. Eurig oedd Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016, lle enillodd y Fedal Ryddiaith â’i nofel gyntaf Cai. Yn 2019, cyhoeddodd ei ail gyfrol o farddoniaeth i oedolion, Llyfr Gwyrdd Ystwyth, a chyd-olygu cyfrol o erthyglau am y grefft o gynganeddu, Y Gynghanedd Heddiw, gydag Aneirin Karadog. Mae’r ddau hefyd yn cyflwyno ac yn cynhyrchu podlediad barddol misol o’r enw Clera. Ynghyd â Hywel Griffiths, mae Eurig yn cynnal Cicio’r Bar, noson reolaidd o farddoniaeth a cherddoriaeth yn Aberystwyth, ac mae’n cydweithio’n rheolaidd â Sampurna Chattarji, bardd a llenor o Fwmbái. Yn 2023–4, fe’i penodwyd yn Fardd y Dref yn Aberystwyth, y penodiad cyntaf o’i fath yng Nghymru.