Bardd a thiwtor Cymraeg sy’n byw yn ardal y Wrecsam yw Aled Lewis Evans. Yn 2019 enillodd Wobr Cyfraniad Oes y Fedwen Lyfrau. Ers cyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Tre’r Ffin i godi arian at yr Urdd ym 1983, cyhoeddodd naw cyfrol o farddoniaeth Gymraeg. Y diweddaraf oedd, Llinynnau (Cyhoeddiadau Barddas, 2016), a fu ar Restr Fer Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Yn 2006 dyfarnwyd ysgoloriaeth ysgrifennu iddo gan Llenyddiaeth Cymru i’w alluogi i ymweld â mannau o heddwch a thangnefedd yng Nghymru ar gyfer llyfr o ysgrifau taith, “Llwybrau Llonyddwch”. Mae ei gerddi wedi eu defnyddio yn ddarnau llefaru gan unigolion a phartïon mewn sawl Eisteddfod. Yn ystod cyfnod Clo y Covid cyhoeddwyd ei gyfrol o ryddiaith yn seiliedig ar Wrecsam a’r Gogledd ddwyrain “Tre Terfyn”. Mae Aled bellach yn Weinidog llawn amser, ond yn ceisio cadw yr ochr greadigol hefyd yn fyw, ac yn mwynhau darllen ei waith i gymdeithasau.