Mae gweithio gyda phartneriaid yn hollbwysig er mwyn i Llenyddiaeth Cymru gael effaith ystyrlon. Gan weithio gyda phartneriaid sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sy’n cyd-fynd â’n nodau, byddwn ni’n cyd-greu ac yn cydweithio ar brosiectau a strategaethau, gan sicrhau’r effaith fwyaf bosibl drwy gronni ein hadnoddau, y gwersi rydyn ni’n eu dysgu, a’n harbenigeddau. Yn ein gwaith ar y cyd byddwn yn dilyn egwyddorion cynaliadwy’r Pum Dull o Weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Daw ein partneriaid o amrywiaeth o sectorau gwahanol, gan gynnwys y sector celfyddydau ehangach, yn ogystal ag o’r sector addysg, y sector iechyd, y sector chwaraeon, y sector cymdeithasol, a’r sector amgylcheddol. Mae’r partneriaid yn amrywio o ran natur. Yn eu plith mae adrannau’r llywodraeth (ar lefel leol a chenedlaethol), clybiau pêl-droed, cyrff cenedlaethol ac elusennau’r trydydd sector, ynghyd â chydweithfeydd a grwpiau cymunedol y filltir sgwâr.
Byddwn ni’n ymgynghori â phartneriaid yn rheolaidd ac yn gwrando ar gyngor arbenigol am sut i gysylltu a gweithio’n sensitif gyda grwpiau penodol o gyfranogwyr – yn enwedig y rheini sydd ar ymylon cymdeithas a/neu’n agored i niwed.
Mae ein gwaith partneriaeth yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol penodol drwy lenyddiaeth, gyda Llenyddiaeth Cymru yn cyfrannu’n helaeth yn y flwyddyn gyntaf. Y nod yw creu cynlluniau enghreifftiol y gellir wedyn eu rhannu a’u cyflwyno’n ehangach ledled Cymru.