Mentoriaid
Bydd 14 awdur yn cynnig mentoriaeth i’r ail garfan o gyfranogwyr Cynrychioli Cymru.
Ymhlith y Mentoriaid, mae rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus diwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt: Tom Bullough, Rhian Edwards, Niall Griffiths, Philip Gross, Kerry Hudson, Cynan Jones, Patrice Lawrence, Sophie Mackintosh, Rufus Mufasa, Jacob Ross, Peter Scalpello, Katherine Stansfield, Rachel Trezise ac Eloise Williams.
Detholwyd y Mentoriaid wedi ymgynghori â’r awduron ar y rhaglen, ac mae’r Mentoriaid yn arbenigo ar ystod eang o genres, ac yn meddu ar arbenigedd proffesiynol. Maent wedi eu lleoli yng Nghymru a thu hwnt. At ei gilydd, mae eu gwaith wedi eu gyhoeddi’n fyd-eang, ac wedi eu cynnwys mewn gwobrau gan gynnwys y Jhalak Prize for Children and Young People, y Prix Femina Étranger, Waterstones’ Prize for Older Children’s Fiction, Gwobr Dylan Thomas, Gwobr T.S. Eliot Prize a Llyfr y Flwyddyn. Bydd eu profiadau, eu llwyddiant a’u creadigrwydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiad yr awduron yn y garfan, ac hefyd maes o law, ar y sector llenyddol ehangach.
Yn ystod y rhaglen bydd yr awduron yn elwa ar gefnogaeth olygyddol yn ogystal â chyngor arbenigol ar eu gyrfa fel awdur, wrth iddynt weithio tuag at gyflawni eu nodau unigol. Bydd y Mentoriaid wrth law er mwyn eu cynorthwyo i fireinio eu prosiectau creadigol i safon cyhoeddi, a byddant yn cynnig arweiniad ar ymgyfarwyddo â’r diwydiant, yn eu cyfeirio at gyfleoedd proffesiynol a chynorthwyo mynediad at rwydweithiau ehangach.
Gellir darllen rhagor am ail garfan o awduron Cynrychioli Cymru 2022-23 yma.