Darllenwch yr alwad agored a’r Cwestiynau Cyffredin yn fanwl. Yna:
- Llenwch y ffurflen gais ddigidol hon os gwelwch yn dda . Gellir lawrlwytho fersiwn print bras a dyslecsia-gyfeillgar isod hefyd. Bydd y ffurflen gais yn gofyn am y canlynol:
- Eich manylion personol
- Manylion am eich profiadau fel hwylusydd llenyddol
- Gwybodaeth am y grŵp(iau) neu unigolion yr hoffech weithio gyda nhw yn y dyfodol a pham
- Pam eich bod am wneud cais am y cyfle hwn yn ystod y cam hwn o’ch gyrfa fel hwylusydd.
Os yw llenwi ffurflen ysgrifenedig yn anodd i chi, cysylltwch â ni i drafod ffyrdd eraill o wneud cais, er enghraifft cyflwyno cais fideo.
- Cwblhewch ein Ffurflen Awduron, ar gael yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn ymgeisio, neu os ydych yn awyddus i drefnu sgwrs anffurfiol gydag aelod o dîm Llenyddiaeth Cymru, mae croeso i chi anfon e-bost at Louise Roberts: louise@llenyddiaethcymru.org neu ffonio un o swyddfeydd Llenyddiaeth Cymru:
01766 522 811 (Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Caerdydd).
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mi fydd y panel asesu yn dewis rhestr fer, a bydd Llenyddiaeth Cymru o bosibl yn gwahodd yr ymgeiswyr hynny i gyfweliad ar Zoom i drafod eu cais ymhellach.
Bydd y panel cyfweld yn cynnwys arbenigwyr allanol ym maes iechyd, llesiant a/neu addysg) a dau aelod o staff Llenyddiaeth Cymru.
Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniad erbyn dechrau mis Ebrill 2025.