Amgueddfa Lechi Cymru
Daw Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis â hanes y diwydiant llechi yn fyw o flaen eich llygaid. Mae’r Amgueddfa ei hun yng ngweithdai gwreiddiol y chwarel ac yma cewch ddarganfod sut yr oedd pobl cymunedau chwareli Cymru yn byw ac yn gweithio.
https://amgueddfa.cymru/llechi/
BBC Radio Cymru
Gorsaf radio genedlaethol Cymru
Cronfa Dreftadaeth Y Loteri Genedlaethol
Defnyddiwn arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i ysbrydoli, arwain a chefnogi treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, yn awr ac yn y dyfodol.
https://www.heritagefund.org.uk/cy/amdanom-ni
Llechi Cymru
Y corff sy'n gyfrifol am gydlynnu'r cais i sicrhau statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i dirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru.
http://www.llechi.cymru/
Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi ei leoli ar arfordir gorllewinol Prydain gan gwmpasu 823 milltir sgwâr o dir amrywiol, yn ardal fyw a gweithiol, ac yn gartref i 26,000 o bobl. Yn ogystal â bod y Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, mae Eryri’n meddu ar y mynydd uchaf a'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, ynghyd â chyfoeth o bentrefi prydferth fel Betws y Coed a Beddgelert. Mae Eryri yn ardal llawn diwylliant a hanes lleol, ac mae mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg.
https://www.eryri.llyw.cymru/home
S4C
Sianel deledu Gymraeg ydi S4C sy'n yn darlledu'n fyw rhwng 6 y bore a hwyr y nos. Mae modd hefyd i chi wylio rhaglenni a fideos ar wahanol blatfformau digidol ar adegau i'ch siwtio chi.
Mae 'na amrywiaeth eang iawn o raglenni ar S4C gan gynnwys newyddion, drama, dogfen, cerddoriaeth, adloniant a rhaglenni plant. Mae'r deunydd sydd ar y we yn cynnwys gwasanaeth cynnwys byr arlein, wedi ei anelu yn bennaf at gynulleidfa 16-34 o'r enw Hansh.
https://www.s4c.cymru/cy/amdanom-ni/